Amgueddfeydd ac argyfwng costau byw

Gair am Gymdeithas yr Amgueddfeydd

Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd (MA) yn sefydliad aelodaeth sy’n cynrychioli ac yn cefnogi amgueddfeydd a phobl sy’n gweithio iddyn nhw a gyda nhw, ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym 12,000 o aelodau sy'n cynnwys pob math o amgueddfeydd, o rai bach lleol sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i sefydliadau mawr cenedlaethol a phobl sy’n gwneud pob math o waith, o gyfarwyddwyr i hyfforddeion. Os hoffech wybod rhagor am yr MA, ewch i'n gwefan: http://www.museumsassociation.org/home

Mae’r MA yn bryderus iawn am effaith yr argyfwng costau byw ar amgueddfeydd ledled y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru. Mae’r cynnydd sydyn mewn chwyddiant a chostau ynni yn cael effaith anghymesur ar y sector yn y meysydd a ganlyn:

Y Gweithlu

Mae cyflogau gweithwyr amgueddfeydd eisoes yn isel o'u cymharu â swyddi cyfatebol mewn sectorau eraill, fel y gwelir yn ein Harolwg Cyflogau 2017.  Mae chwyddiant sydd mewn ffigurau dwbl ynghyd â chodiadau cyflog sy'n is na chyfradd chwyddiant yn golygu bod gweithwyr amgueddfeydd yn gweld eu hincwm mewn termau real yn gostwng yn gynt nag y gwnaeth ers degawdau.

Dros y misoedd nesaf, bydd llawer o weithwyr yn y sector yn cael trafferth talu costau ynni a bwyd sy’n cynyddu’n gyflym ac mae hynny eisoes yn gwneud drwg mawr i les corfforol a meddyliol.  

Yn ogystal, mae cyflogau isel mewn amgueddfeydd yn arwain at brinder staff, yn enwedig mewn swyddi blaen tŷ.

Sefydliadau 

Mae amgueddfeydd yn wynebu costau sy'n cynyddu'n gyflym ym mhob maes ac mae llawer o’n haelodau’n sôn am gynnydd o 300-500% yn eu costau ynni. Mae hyn yn achosi problemau sylweddol i'r sector wrth i sefydliadau geisio cynnal amodau priodol ar gyfer cynulleidfaoedd a chasgliadau.  Mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar amgueddfeydd gan fod llawer ohonynt mewn adeiladau hanesyddol sy'n defnyddio llawer o ynni.

Mae costau eraill yn cynyddu hefyd, yn cynnwys biliau cyflogau a chostau prosiectau cyfalaf ac mae pwysau ar gyllidebau rhiant-sefydliadau, fel gwasanaethau awdurdodau lleol. Daw’r pwysau hwn ar gyfnod pan fo'r sector yn dal wrthi'n ailadeiladu ar ôl y pandemig a degawd o lymder. Nid yw llawer o sefydliadau mewn sefyllfa gref i ddelio â sioc economaidd arall.  

Cynulleidfaoedd 

Mae’r cyhoedd yn mynd yn llai parod i wario ar brofiadau y mae’n rhaid talu amdanynt mewn amgueddfeydd, yn cynnwys amgueddfeydd ac arddangosfeydd dros dro sy’n codi tâl. Gwelir hyn yn yr ymchwil ddiweddaraf sy'n dangos bod costau byw wedi disodli Covid fel y prif reswm dros beidio ag ymweld ag atyniad. Dyma ergyd sylweddol i amgueddfeydd a oedd yn llwyddo i ailadeiladu cynulleidfaoedd ar ôl y pandemig.  

Yn y cyfamser, bydd y cyhoedd yn gwneud mwy o ddefnydd o amgueddfeydd sydd heb dâl mynediad gan fod y rhain yn dal yn un o'r ychydig ddyddiau allan di-gost iddynt. Dros y gaeaf, mae'n debygol y bydd pobl sy'n methu gwresogi eu cartrefi yn mynd i amgueddfeydd gan eu bod yn fannau cynnes a diogel.  

Rydym ni’n galw am:

Cyflogau – rydym yn galw ar amgueddfeydd a chyrff cyllido i gydweithio er mwyn sicrhau bod cynigion cyflog sylweddol yn cael eu gwneud i weithlu'r amgueddfeydd yn y flwyddyn ariannol hon. Mae angen i weithwyr amgueddfeydd gael setliadau cyflog a fydd yn eu galluogi i gadw i fyny â'r pwysau sydd arnynt o ran costau byw.   

Buddsoddiadau – Rydym yn galw ar lywodraethau, cyrff hyd braich ac awdurdodau lleol i gydweithio i fuddsoddi’n strategol yn y sector amgueddfeydd. Mae'n hanfodol parhau i roi cymorth refeniw fel y gall sefydliadau aros ar agor yn y cyfnod heriol hwn. Rydym yn galw hefyd am gefnogaeth benodol i amgueddfeydd er mwyn sicrhau y gallant fod yn fannau cynnes i gymunedau yn ystod y gaeaf.

·         Dylai llywodraeth San Steffan fynd ati ar fyrder i greu cylch newydd o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol a ddosberthir o dan Fformiwla Barnett, er mwyn sicrhau bod amgueddfeydd yn gallu goroesi’r gaeaf. 

Cymorth gyda biliau ynni – Er ein bod yn croesawu’r cap chwe mis ar brisiau ynni ar gyfer busnesau ac elusennau, a fydd yn rhoi cymorth tymor byr i amgueddfeydd ddod trwy gyfnod y gaeaf, ateb dros dro yn unig ydyw ac mae’n dal yn aneglur sut y bydd yn gweithio.

Rydym yn galw am gamau brys i helpu amgueddfeydd i dalu costau ynni sy’n cynyddu’n gyflym. Mae ynni’n gost fawr, sefydlog ac mae'n rhaid i amgueddfeydd ei thalu er mwyn aros yn agored a chynnal safonau amgylcheddol ar gyfer eu casgliadau.

·         Er mwyn eu helpu i wynebu’r her hon, dylai llywodraeth San Steffan gyflwyno cap ar brisiau ynni ar gyfer amgueddfeydd. (Mae’n bwysig nodi bod toriadau mewn trethi neu ad-daliadau ardrethi busnes yn annhebygol o helpu amgueddfeydd gan fod y rhan fwyaf ohonynt eisoes yn elwa ar ostyngiadau treth sylweddol.) Dylid trefnu’r cymorth hwn er mwyn sicrhau bod amgueddfeydd yn gallu gweithredu fel mannau cynnes i gymunedau yn ystod y gaeaf; a chynnal y safonau sy'n ofynnol wrth ofalu am gasgliadau cyhoeddus.

Yn y tymor hwy, mae angen buddsoddi mewn ffordd strategol i helpu amgueddfeydd i ddod yn fwy ynni-effeithlon ac eco-gyfeillgar, fel y gallwn leihau ein hôl troed carbon a chreu dyfodol cynaliadwy i’n sefydliadau a’n cymunedau.

Mae llawer o amgueddfeydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig wedi addo agor eu drysau i fod yn fannau cynnes a diogel ar gyfer eu cymunedau dros y gaeaf. Mae amgueddfeydd yn llefydd delfrydol i ddarparu'r gwasanaeth hwn; oherwydd, os codir tâl, mae'n isel, mae ganddynt y cyfleusterau a'r amwynderau y mae ar y cyhoedd eu hangen ac, wrth gwrs, mae ganddynt gasgliadau, storïau, arddangosfeydd a rhaglenni anhygoel sy'n gallu diddanu a diddori pobl am oriau. Ond er mwyn i amgueddfeydd wneud hynny, mae angen cymorth a buddsoddiad arnynt ar fyrder.